A ydych wedi ymrwymo i hyrwyddo llais, gwerthoedd ag ymarferiad rhagorol gwaith cymdeithasol?
A yw gwaith cymdeithasol Plant a Theuluoedd yn angerddol i chi ac yn arbenigedd gennych?
Os ydych wedi ateb ‘ydyw’ a bod y cymwysterau proffesiynol, y sgiliau a’r profiad angenrheidiol gennych, rydym eisiau clywed gennych!
Mae cyfle wedi codi yn y Gymdeithas i weithiwr(wraig) cymdeithasol cofrestredig ymuno a Thîm Cymdeithas Brydeinig Gweithwyr Cymdeithasol - Cymru (BASW Cymru) ar sail rhan amser 2.5 diwrnod yr wythnos (17.5 o oriau)
Mae hon yn swydd amrywiol a bydd yn golygu gweithio gydag aelodau BASW Cymru, rhandeiliaid a staff ledled y Gymdeithas i ddatblygu BASW Cymru
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn weithiwr( wraig) cymdeithasol profiadol wedi cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru (neu reolyddion eraill a leolir yn y DU) gyda:
- Y gallu i gefnogi tîm BASW Cymru a’r Cyfarwyddwr Genedlaethol trwy ddadansoddi polisïau gwaith cymdeithasol cenedlaethol, ymchwil, y gweithlu a blaenoriaethau datblygiad proffesiynol ar draws rhannau amrywiol o waith cymdeithasol
- Y profiad o weithio gyda sector eang o randeiliaid a hyrwyddo gwerthoedd moesegol gwaith cymdeithasol ag ymarferiad rhagorol.
- Profiad o Waith Cymdeithasol gyda Plant a Theuluoedd
- Sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu rhagorol
- Y profiad o weithio mewn amgylchedd heriol a hyblyg gydag amserlenni a blaenoriaethau cystadleuol
- Y gallu i ymateb i ymgynghoriadau cenedlaethol a rhanbarthol o fewn amserlen dynn
- Sgiliau cyflwyno i gynulleidfaoedd amrywiol mewn dull hyderus, deniadol a phroffesiynol
- Sgiliau hyfforddi a hyrwyddo
- Sgiliau ysgrifennu rhagorol
- Y gallu i weithio mewn tîm ag i weithio’n annibynnol fel bo’r angen
- Parodrwydd i fod yn hyblyg o fewn rheswm, i gwrdd â gofynion y Gymdeithas.
Gwahoddir ceisiadau gan weithwyr cymdeithasol cymwysedig sydd wedi ymrwymo i'r safonau uchaf o ymarfer gwaith cymdeithasol. Bydd gennych hefyd ymrwymiad i gynyddu aelodaeth ac ymgysylltiad aelodau o fewn BASW ac i gefnogi'r Gymdeithas i gyflawni ei Gweledigaeth 2025.
Mae BASW yn croesawu ceisiadau, waeth beth fo'r oedran, anabledd, rhyw, gwahaniaethau ar sail rhywedd, ethnigrwydd, cenedligrwydd, crefydd neu gyfeiriadedd rhywiol. Rydym yn gyflogwr cyfle cyfartal - felly bydd y rhestr fer yn seiliedig ar y wybodaeth a roddwch ar y ffurflen gais, ac unwaith y bydd y rhestr fer wedi'i chwblhau, bydd y dewis terfynol yn digwydd trwy asesiad a chyfweliad yn unig.
Dylid e-bostio ceisiadau at sara.hickin@basw.co.uk heb fod yn ddiweddarach na 10am dydd Mawrth 1af Mawrth 2022 - Nid ydym yn derbyn CV’s.
Bydd yr ymgeiswyr ar y rhestr fer yn cael eu gwahodd i gyfweliad ar-lein mewn Timau MS ar 15fed a’r 16eg Mawrth 2022