Skip to main content

BASW UK – Maniffesto ar gyfer Gwaith Cymdeithasol

ManiffestoGC19

Mae Cymdeithas Brydeinig y Gweithwyr Cymdeithasol (BASW) yn galw ar ymgeiswyr seneddol yr holl bleidiau gwleidyddol i addo rhoi eu cefnogaeth i weithwyr cymdeithasol ac i’r plant, oedolion a’r teuluoedd hynny sy’n derbyn eu gwasanaethau

#ManiffestoGC19 #AddewidGwaithCymdeithasol19

1. Buddsoddi yn y mentrau rydym eu hangen  yn y degawd nesaf yng ngwaith cymdeithasol ym meysydd recriwtio, addysg, datblygiad proffesiynol a dal gafael ar staff.

Yn ôl yr ymchwil a wnaed gan BASW ag Undeb y Gweithwyr Cymdeithasol gyda Phrifysgol Sba Caerfaddon, yn 2018 roedd 60% o weithwyr cymdeithasol yn rhagweld y buasent yn gadael eu swyddi presennol o fewn y 15 mis nesaf. Mae bron i 40% o’r rhai a ymatebodd yn rhagweld y byddant yn gadael y proffesiwn yn gyfan gwbl.

Yn ôl  yr Adran Addysg  mae’r trosiant staff yn y gwasanaeth plant yn Lloegr yn cynyddu o flwyddyn i flwyddyn ac ar hyn o bryd mae’n sefyll ar 16%, tra bo ffigyrau swyddogol eraill yn dangos bod 15% o weithlu gwaith cymdeithasol 2017/18 yng Nghymru wedi gadael y proffesiwn.  

Mae gweithlu gofal iechyd a chymdeithasol ffyniannus angen polisi mewnfudo sy’n hyblyg ac sy’n cynnwys sicrwydd bod hawliau ag urddas gweithwyr iechyd a gweithwyr gofal cymdeithasol o wledydd tramor  yn cael eu diogelu.

2. Hybu rhan gweithwyr cymdeithasol mewn gwasanaeth iechyd a gofal amlbroffesiwn ac integredig.

Gall integreiddio cywir a thimau amlddisgyblaeth cyflwyno’r canlyniadau gorau posibl i bawb. Mae gweithwyr cymdeithasol yn hanfodol wrth ddod a gwahanol ffynonellau at ei gilydd i gael yr effaith orau, trwy weithio’n agos gyda theuluoedd a gofalwyr a diogelu hawliau ac urddas.

Yn rhy aml  fodd bynnag, mae cyfraniad gwaith cymdeithasol mewn sefyllfaoedd integredig yn brin o fuddsoddiad ac arweiniad

Mae BASW yn disgwyl i’r Llywodraeth nesaf helaethu rhan gweithwyr cymdeithasol ym mhob sefyllfa  integredig lle gall  ein harbenigedd trawsnewid bywydau ein dinasyddion mwyaf bregus, a mynd i’r afael a rhai o’n heriau mwyaf o ran  ansawdd a gwerth.  

3. Mynd i’r afael ag amodau gwaith gwael a beichiau gwaith afreal o uchel i weithwyr cymdeithasol

Yn ôl ymchwil a wnaed gan Undeb y Gweithwyr Cymdeithasol a Phrifysgol Sba Caerfaddon, o’i gymharu â chyfartaledd y DU, mae amodau gwaith gweithwyr cymdeithasol yn waeth na 90%-95% o swyddi eraill yn y sector cyhoeddus yn ogystal â’r sector preifat,   

Mae gweithwyr  cymdeithasol yn gweithio ar gyfartaledd o 64 diwrnod y flwyddyn yn fwy na’r hyn sydd yn eu cytundebau, cyfartaledd o 11 awr yr wythnos. Y prif reswm am straen yw’r lefelau uchel o achosion gwaith a gweinyddol.  Mae ansawdd y gefnogaeth i wasanaethau plant ac oedolion yn dibynnu ar roi amodau gwaith cywir i weithwyr cymdeithasol.

Mae ymchwil diweddar gan Ofal Cymunedol wedi dangos bod bron i 73% o weithwyr cymdeithasol heb gynllun clir i ddatblygu eu gyrfaoedd. Mae BASW a’n partneriaid yn gwybod sut y gellir cildroi hyn trwy well ymarferiadau gwaith - ond bydd hyn yn golygu buddsoddiad hefyd.

4. Cefnogi a buddsoddi mewn ymarferiad gwaith cymdeithasol sy’n hybu hawliau, urddas, hunan benderfyniad a photensial pob plentyn, oedolyn a chymuned.

Mae ymgyrch ymchwil 80/20 BASW wedi dangos mai un o brif achosion straen ar weithwyr cymdeithasol yn y rheng flaen, yw’r diffyg adnoddau i ddefnyddwyr y gwasanaethau a’r prinder amser i gael gweithio gyda hwy wyneb yn wyneb.

Mae ymarferiad sy’n seiliedig ar berthynas yn sylfaenol i waith cymdeithasol ond yn rhy aml, mae gwaith gweinyddol, sy’n haws i’w fesur, yn gorfod cael blaenoriaeth er anfantais i blant a theuluoedd.

Mae gweithwyr cymdeithasol yn chwarae rhan allweddol wrth helpu pobl gydag anghenion iechyd meddwl neu anableddau dysgu i fyw bywydau annibynnol y tu allan i ofal mewn sefydliadau preswyl.

Mae grymuso gwaith cymdeithasol yn y gymuned, sy’n canolbwyntio ar gryfderau ag asedau pobl, yn hanfodol i gefnogi teuluoedd i allu cael mynediad at y gefnogaeth iawn ar yr adeg iawn.

Cymdeithas Decach

5. Dod a chynildeb yn y gwasanaethau cyhoeddus i ben: buddsoddi mewn gofal cymdeithasol a diwygio  Credyd Cynhwysol

Mae 14 miliwn o bobl yn byw mewn tlodi yn y DU ac nid yw’r gallu i bob dinesydd cael mynediad at wasanaethau cyhoeddus yn ddigonol: i ddod a chynildeb i ben, rhaid ymdrin â’r anghyfiawnder yma fel blaenoriaeth 

Gweithwyr cymdeithasol yw’r rhai sydd at y rheng flaen pan ddaw i doriadau mewn cyllidebau Awdurdodau Lleol. Mae’r toriadau hyn wedi taro gwasanaethau hanfodol i’r henoed, plant, teuluoedd, unigolion a gofalwyr mor galed dros y degawd diwethaf, yn ogystal â diwygiadau creulon a gwrthgynhyrchiol i’r system Lles.   .

Pob diwrnod, bydd gweithwyr cymdeithasol yn dod ar draws canlyniadau ariannol, iechyd ac ymddygiad negyddol gan ddefnyddwyr y gwasanaethau. Gwelwyd sancsiynau mewn budd-daliadau, megis pobl gydag anableddau yn cael eu cosbi’n annheg fel mae’r raddfa o 75% o apeliadau llwyddiannus yn erbyn asesiadau PIP1 ag ESA2 yn  dangos yn glir. Mae eraill yn cael eu gorfodi allan o’r system yn gyfan  gwbl.

Ymysg mesurau eraill, mae BASW yn gofyn i’r Llywodraeth nesaf dileu, yn ddi-oed, y cap dau blentyn ar gredydau treth plant a bod y cyfnod mae hawlwyr Credyd Cymhwysol yn gorfod aros, yn dod  i ben. 

6. Gwrthdroi preifateiddio gwastraffus a’r modelau gofal iechyd a chymdeithasol ar sail elw

Mae gofal iechyd a chymdeithasol yn cael ei breifateiddio a’i dorri’n ddarnau yn gynyddol. Mae yna bryderon difrifol am gyn lleied sy’n hysbys am effaith y modelau hyn ar y bobl sy’n defnyddio’r gwasanaethau a’r gymuned ehangach.

Mae BASW hefyd yn poeni am yr adnoddau sy’n cael eu tynnu allan o’r sector cyhoeddus ac felly’n cam-ystumio rhwymedigaethau’r wladwriaeth yn ogystal â’r diffyg craffu a chyfrifoldeb democrataidd i gleifion, defnyddwyr y gwasanaethau, teuluoedd, gofalwyr a threthdalwyr.    

Cafodd sector gofal cymdeithasol i oedolion diffygiol, yn ogystal â charchardai preifat ac arbrofion ar y gwasanaeth prawf eu heffeithio’n galed wrth i gwmnïau sy’n cael eu gyrru gan elw ymuno a’r farchnad; rhaid sicrhau nad yw hyn yn cael ei ailadrodd mewn mannau eraill.

  

[1] Taliadau Annibyniaeth Personol

2 Lwfans Cyflogaeth a Chymorth

7. Datrys yr argyfwng digartrefedd ledled y DU

Mae gwreiddiau digartrefedd eang a gwarthus yn gorwedd gyda’r diffyg cartrefi fforddiadwy a blynyddoedd o bolisïau diffygiol ar baratoi cartrefi. Yn aml iawn, fodd  bynnag, mae digartrefedd yn broblem gymhleth ddiysgog hefyd  i unigolion sy’n gysylltiedig â chyflyrau eraill megis iechyd meddwl, tlodi tra mewn gwaith, camddefnydd o gyffuriau, y dull ‘amgylchedd gelyniaethus’  tuag at fewnfudo yn cynnwys diffyg cymorth o gyllid cyhoeddus, trais yn y cartref a chwalfa deuluol. Mae pob un o’r rhain wedi dioddef o ddiffyg adnoddau sylweddol.

Yr unig  ateb yw cael dull gweithredol cysylltiedig ar y cyd ar draws y Llywodraeth gyda mwy o gartrefi fforddiadwy a mwy o adnoddau ataliol.  Rhaid gweithredu ar frys i ateb y diffyg yn y cymorth sydd ar gael a’ r prinder tai.

8. Beth bynnag fydd canlyniad Brexit, diogelwch yr heddwch sydd yng Ngogledd Iwerddon a’r ddeddfwriaeth ar hawliau dynol sy’n diogelu pob dinesydd

Proffesiwn sydd wedi angori ar hawliau dynol yw gwaith cymdeithasol. Mae cytundebau amlochrog byd-eang, megis cytundebau hawliau dynol, yn ogystal â meini sylfaenol heddwch megis Cytundeb Gwener y Groglith, yn hanfodol i ddiogelu’r rhai mwyaf bregus yn ein cymdeithas, nid yn unig yn y DU ond ledled y byd. Byddai Brexit a fyddai’n bygythiad i unrhyw gytundeb o’r fath yn achosi mwy o boen i’r rhai hynny sy’n lleiaf abl i ddygymod; hefyd bydd unrhyw Brexit a fyddai’n cyhoeddi dwysâd mewn agweddau ymosodol tuag at fewnfudwyr yn  creu perygl gwirioneddol i gydlyniad cymdeithasol. 

Byddwch cystal â gadael i mi wybod eich bod am addo rhoi eich cefnogaeth trwy anfon e-bost ataf a thrydar gan ddefnyddio hashnodau #SWManifesto19 a #SocialWorkPledge19

 

Rydym yn falch i gefnogi gwaith ein partneriaid sy’n galw ar bleidiau gwleidyddol i gefnogi hawliau plant a phobl ieuanc:

Cymdeithas y Plant.  Mae gweithwyr cymdeithasol yn ganolog wrth hybu hawliau plant ac maent wedi ymrwymo i gefnogi Cymdeithas y Plant yn galw ar bob plaid wleidyddol i ymrwymo i greu mesuriad blynyddol o lesiant plant mewn ysgolion ag i roi llesiant plant yn gadarn wrth galon ddatblygu polisïau a phenderfyniadau ar wariant.

Erthygl 39 sy’n ymgyrchu dros Erthygl 39 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn ac a fu’n llwyddiannus wrth herio’r hawl i atal cymell poen ar blant ar eu teithiau yn ôl ag ymlaen  o gartrefi diogel i blant. Yn Chwefror 2019, daeth yr Ymchwiliad Annibynnol ar Gamdriniaeth Rywiol o Blant i’r canlyniad bod atal cymell poen yn ddull o gam-drin plant ac fe argymhellwyd y dylid ei wahardd yn gyfreithiol.

Further information